Darperir Prydau Ysgol am Ddim ond
i ddisgyblion ysgolion Cyngor Bwrdeistref Sirol
Conwy y mae eu rhieni/gwarcheidwaid yn derbyn un o'r
cymorthdaliadau canlynol:
Cymorth Incwm*
Lwfans Chwilio am
Waith ar Sail Incwm*
Credyd Treth Plant
cyn belled nad ydynt yn cael Credyd
Treth Gwaith a bod ganddynt incwm blynyddol, fel y'i
asesir gan Cyllid a Thollau EM, sy'n llai na £15,575.
Cymorth o dan
Adran VI o'r Ddeddf Lloches a Mewnfudo 1999.
Elfen
Gwarant Credyd Pensiwn y Wladwriaeth.
(*Mae
disgyblion sy'n cael Cymorth Incwm neu Lwfans
Chwilio am Waith ar Sail Incwm eu hunain hefyd yn
gymwys)
Mae
ffurflen gais i hawlio Prydau Ysgol am Ddim ar gael
gan y Gwasanaethau Addysg neu Benaethiaid Ysgolion.