DEWISLEN/ MAIN MENU

 

urdd.org

 

THE URDD WILL RE-START IN LLANFAIRFECHAN AFTER THE CHRISTMAS HOLIDAYS.MISS THOMAS HAS AGREED TO LEAD THE URDD ACTIVITIES

 

 

BYDD YR URDD YN AIL GYCHWYN YN Y PENTREF AR OL GWYLIAU'R NADOLIG. MISS THOMAS BYDD YN RHEDEG Y GWEITHGAREDDAU
GWEITHGAREDDAU'R URDD GAN ALAW WILLIAMS

Y Tymor yma, mi rydym ni wedi bod yn brysur iawn!

Yn gyntaf dechreuon ar y bisgedi Nadolig, wedyn gwnaethom cwis a chawsom disgrifio ein hunain.

Rydym wedi dechrau gwneud pypedi. Daeth dynes i'r ysgol i'n helpu.
Bob blwyddyn ,rydym yn mynd i Ysgol Craig y Don i wneud Mabolgampau'r Urdd.

Rhodd gan Merched y Wawr- Tachwedd 2008

Yn ddiweddar iawn, derbyniwyd siec o £100 gan Merched y Wawr tuag at glwb Urdd yr Ysgol. Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i brynu adnoddau chwarae i’r clwb. Diolch o galon i Merched y Wawr am eu haelioni.

Recently, the school received a bumper cheque of £100 from the local branch of 'Merched y Wawr'. The donation will be used to buy games and fun resources for the Urdd. Our thanks go to the ladies for their generosity.

Gweithgareddau'r Urdd/ Urdd Activities.

Mae clwb yr Urdd yn cael ei gynnal bob prynhawn Mercher y tymor yma ac mae pawb wedi mwynhau. Mae pawb wedi cael hwyl yn creu modelau, cael gwersi ymarfer corff a chreu lluniau ar gyfer yr Eisteddfod. Cawsom sesiwn llawn hwyl a sbri wrth addurno'r gacen Pasg. Rwy’n siŵr bod mwy o dda da wedi eu rhoi yn y geg nag ar y gacen! Bydd y cyfarfod nesaf ar y prynhawn dydd Mercher ar ôl y Pasg.

 The Urdd club has been held on Wednesday afternoons this term and we have had a great turnout. Everyone had great fun making models, taking part in PE activities and taking part in Eisteddfod art competitions. We have had a very messy session decorating Easter cakes. I’m sure more sweets were put into mouths than on the cakes themselves. The next meeting will be held on the Wednesday after the Easter holidays.

 

 

 
THE EISTEDDFOD COMES TO CONWY!

During Whit Bank holiday week, from Monday 26 May until Saturday 31 May 2008, Gloddaeth Isaf farm land at Glanwydden near Llandudno will be transformed as Urdd Gobaith Cymru's National Eisteddfod hosted by Conwy county arrives. 

With approximately 100,000 visitors set to attend the Eisteddfod ground, it gives you a tiny insight as to the scale of this huge event.  Yet again this year, the Eisteddfod is set to be a hit, with activities to entertain those of you who enjoy competing, plus activities for those of you who look forward to seeing a bit more than just the competitions on the pavilion stage. 

For some, this is the climax of many months hard work -  rehearsing, learning, performing, and reaching this national round is a culmination of commitment and talent.  If you're a singer, actor, dancer, artist, sculptor or a key member of a party or choir - congratulations!  You are one of 15,000 competitors who have participated at this event, with the highlight set a few miles from Llandudno, at the end of May 2008.  


The numerous activities on the field includes the opportunity to visit over 200 stalls, promoting products and crafts from Wales, plus all kinds of services, workshops and events.  Why not give the climbing wall a go, enjoy an entertaining session at one of the kids' shows, colour a picture or participate at one of the craft sessions?  Later why not paint your face, visit a science workshop or just enjoy an ice cream?  There is so much to do, you'll need a few days at this event in Conwy.    

 

BYDD YR EISTEDDFOD YNG NGHONWY!

Am wythnos gyfan, o ŵyl y Banc Sulgwyn, dydd Llun 26 o Fai hyd ddydd Sadwrn y 31 o Fai, 2008, bydd tir fferm Gloddaeth Isaf, Glanwydden ger Llandudno yn fwrlwm o weithgareddau, wrth i Eisteddfod yr Urdd Sir Conwy gyrraedd yr ardal.

Gydag oddeutu 100,000 o ymwelwyr yn ymweld â maes yr Eisteddfod, dyma syniad i chi o faint yr ŵyl hon. Eleni eto, mae hi'n argoeli i fod yn Steddfod werth chweil, gyda llu o weithgareddau i ddiddanu'r rheiny ohonoch sydd â diddordeb mawr yn y cystadlu yn ogystal â'r rheiny ohonoch sydd am weld mwy na dim ond y llwyfan mawr.

I rai, dyma binacl misoedd lawer o ymarfer, dysgu a pherfformio, ac mae cael cyrraedd yr ŵyl yn benllanw gwaith caled. Os wyt ti'n ganwr, yn lefarwraig, yn ddawnsiwr, yn arlunydd, yn gerflunydd neu'n aelod pwysig o gôr neu barti - llongyfarchiadau mawr i ti! Rwyt ti'n un o 15,000 o gystadleuwyr sy'n rhan o'r ŵyl hon nepell o Landudno, ddiwedd mis Mai 2008.

Mae'r gweithgareddau amrywiol ar y maes yn cynnwys cyfle i ymweld â thros 200 o stondinau yn hyrwyddo cynnyrch a chrefftau o Gymru, gwasanaethau, gweithdai a digwyddiadau o bob math. Beth am roi tro ar y ffrâm ddringo, sesiwn o hwyl mewn sioe i blant, lliwio llun a pharatoi gwaith celf, peintio dy wyneb neu fwyta hufen iâ? Mae llu o weithgareddau i'ch diddanu am ddyddiau lawer ar faes Eisteddfod yr Urdd Sir Conwy.
 

 

   

What is the Eisteddfod?

eist1Urdd Gobaith Cymru’s National Eisteddfod is one of Europe’s largest youth festivals, and is held is a different area of Wales every year. This year the Eisteddfod will be held at Gloddaeth Isaf Farm near eist2Llandudno.  The Eisteddfod field will be buzzing with activities for the young and old, with plenty of competitions throughout the day.

With 15,000 competitors, 100,000 visitors and a million people eist4watching on TV, the Urdd Eisteddfod is an important cultural event for the whole of Wales. As well as the full programme of competitions in the main pavilion, there are plenty of activities on the Eisteddfod field. From the fair to the art, design and technology exhibitions, and from the climbing wall to the cyber-café and the evening shows and concerts, there is something here to suit everybody’s taste. Come along and enjoy the sights and sounds of the Eisteddfod which offers something for all the family!
 

 

INFORMATION FROM THE URDD WEBSITE:

WWW.URDD.ORG
 

 

Beth yw'r Eisteddfod?

eist1Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru yw prif ŵyl gelfyddydol ieuenctid Ewrop, ac mae hi’n cael ei chynnal mewn man gwahanol yng Nghymru bob blwyddyn. Eleni mae hi’n eist2dod I caeau Fferm Gloddaeth Isaf ger Llandudno. Bydd y maes yn ferw o ddigwyddiadau i’r hen a’r ifanc gyda digon i’w weld ac i’w wneud heb sôn am raglen lawn o gystadlu brwd.

eist4Gyda 15,000 o gystadleuwyr, 100,000 o ymwelwyr a miliwn o bobl yn gwylio ar y teledu, mae Eisteddfod yr Urdd yn ddigwyddiad o bwys I Gymru gyfan. Yn ogystal â’r cystadlaethau canu, llefaru, dawnsio ac offerynnol yn y pafiliwn, mae llwyth o weithgareddau ar y maes. O’ r ffair i’r arddangosfeydd celf, dylunio a thechnoleg, ac o’r wal ddringo i’r cyber-caff a’r sioeau cerdd, mae yma rywbeth at ddant pawb. Dewch yn llu I fwynhau’r ŵyl!

GWYBODAETH OR SAFWE :

www.urdd.org